Ymchwil

Mae dadansoddi pathogenau microbaidd mewn carthffosiaeth a dŵr gwastraff o ffynonellau domestig hyd at ganolfannau trin dŵr gwastraff wedi’i ddefnyddio’n eang ar draws y byd ar gyfer goruchwylio amgylcheddol, ac wedi’i gyfuno gydag ymchwiliadau epidemiolegol o glefydau epidemig a phandemig.

Fel rhan o’r prosiect Goruchwylio Dŵr Gwastraff, byddwn yn:

 1. Ymgymryd â monitro amledd uchel (bob awr i bob dydd) o SARS-CoV-2 mewn dŵr gwastraff mewn canolfannau dinesig mawr ar draws Cymru (tua 45% o boblogaeth Cymru).

2. Ymgymryd â monitro amledd canolig (llai nag wythnos) o  SARS-CoV-2 mewn dŵr gwastraff mewn canolfannau trefol llai ar draws Cymru (tua 25% o’r boblogaeth)

3. Defnyddio dadansoddi cyfres amser i bennu ‘sbardunau’ lle mae SARS-CoV-2 yn dechrau cynyddu yn y boblogaeth mewn lleoliadau unigol (h.y. system rhybudd cynnar).

4. Dadansoddi llinach SARS-CoV-2 sy’n bresennol yn y dŵr gwastraff a chymharu hyn gydag achosion clinigol i ganfod amrywiadau posibl newydd yng Nghymru.

5. Pennu’r nifer a’r mathau o feirysau a phathogenau anadlol eraill sydd hefyd yn cylchredeg yn y boblogaeth (e.e. Influenza A/B, Norovirus, Enterovirus). 

6. Ymgymryd â dadansoddiad wedi’i dargedu ar ollyngiadau o bwynt y ffynhonnell o sydd bwysigrwydd strategol (e.e. ysbytai).

7. Pe bai achosion yn digwydd, cynnal monitro is-dalgylch o SARS-CoV-2 i hwyluso mesurau cloi a chyfyngu wedi’u targedu.  8. Cynnig cyngor amserol i Lywodraeth Cymru ac asiantaethau cenedlaethol ar newidiadau yn amledd y clefyd yng Nghymru.