Amdanom ni

‘Mae monitro dŵr gwastraff yn cynnig potensial ar gyfer rhybudd cynnar o achosion cynyddol o COVID-19, sy’n ategu ein rhaglenni goruchwylio iechyd cyhoeddus ehangach, ac sy’n adeiladu ar gryfderau yma yng Nghymru yn y gwyddorau amgylcheddol, goruchwylio clefydau a genomeg pathogenau.’

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Mae gwybodaeth am y lefelau o  SARS-CoV-2 sy’n cylchredeg yn y gymuned yn rhan hanfodol o ddatblygu strategaeth effeithiol i atal ailymddangosiad a lledaeniad COVID19 yng Nghymru.

Mae monitro dŵr gwastraff ar gyfer SARS-CoV-2 yn cynnig dull amgen i brofi unigolion a gellir ei ddefnyddio fel system rhybudd cynnar i nodi lefelau uwch o SARS-CoV-2 yn y gymuned a chyn bod angen mynd ag unigolion i’r ysbyty.

Bydd ein dull sy’n gweithio gyda dŵr gwastraff yn monitro’r lefelau o SARS-CoV-2 a chlefydau allweddol eraill sy’n cylchredeg gyda ffocws ar ganolfannau trefol yng Nghymru lle mae’r risg o drosglwyddo ar ei uchaf, a bydd yn ategu rhaglenni profi cenedlaethol sydd ar waith.